Enw: Nick John
Camp: Cyflwynydd Chwaraeon
Cyflwynydd Chwaraeon
Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon?
Fel merch ifanc, roeddwn yn cymryd rhan mewn llawer o ddosbarthiadau y tu allan i oriau ysgol, yn cynnwys nofio, gymnasteg, carate, dawnsio etc. Felly mae gen i lawer o atgofion hapus am fod yn yr ysgol gynradd, yn chwarae rownderi ar bnawniau Gwener! … Ar y pryd, a ninnau mor ifanc, roedd ein hathro’n gadael i ni chwarae gyda racedi tenis, felly roedd gennym fwy o siawns o daro’r bêl! Roeddwn hefyd yn eithriadol falch pan oeddwn yn cael chwarae pêl droed gyda chriw o ffrindiau – ond pur anaml oedd y bechgyn yn gadael i’r merched ymuno yn yr hwyl!
Pa chwaraeon oeddech chi’n cymryd rhan ynddynt yn blentyn?
Rygbi, Nofio, Pêl Droed a Phêl Fasged.
Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am chwaraeon?
Yr elfen o hwyl! Yn arbennig wedi bod yn eistedd mewn dosbarth neu swyddfa drwy’r dydd. Mae’n braf bod allan yn yr awyr agored ac yn ffordd dda o fwynhau eich hun gyda’ch ffrinidau hefyd.
Sut ydych chi’n cadw’n heini ac yn iach?
Rwy’n ceisio gwneud ymarferion amrywiol bob wythnos ... amrywiaeth, fel nad ydw i’n diflasu ar un peth. Fel arfer, rwy’n hoffi rhedeg, nofio, mynd i’r gym ... ac un o’m ffefrynnau yw cymryd rhan mewn dosbarthiadau Aerobics neu Ddawns – unwaith eto, mae bob amser yn braf iawn gwneud pethau yng nghwmi eich ffrindiau!
Pwy oedd y dylanwad mwyaf ar eich gyrfa chwaraeon?
Dydw i ddim yn siwr ydyn nhw wedi cael dylanwad uniongyrchol arnaf i ond yn sicr mae Manceinion Unedig wedi cael cryn effaith ar fy mywyd. Mae fy nheulu i gyd yn cefnogi’r tîm ac rwy’n eu dilyn yn gyson. Rwyf wedi teithio i Old Trafford i’w gwylio nhw’n chwarae er pan oeddwn yn 11 oed. Rwy’n cofio’r gêm gyntaf i mi ei gweld yno – gan eistedd yng nghanol cefnogwyr yr ymwelwyr! Yn sicr, mae’r clwb fel ‘uned’ wedi cael effaith arnaf i ac, wrth reswm, mae pobl fel Fergie, Cantona a Giggs yn amlwg yn eu plith. Rwy’n credu y byddwn i’n berson gwahanol iawn oni bai ’mod i wedi treulio cymaint o flynyddoedd yn dilyn y clwb. Er fe fyddai rhai’n dweud y byddai hynny wedi bod yn llawer gwell i mi!!
Pa mor bwysig yw Campau’r Ddraig yn eich barn chi? Pa effaith fydd y cynllun yn ei gael ar chwaraeon Cymru yn eich tyb chi?
Mae cynlluniau fel Campau’r Ddraig yn chwarae rhan bwysig yn ein cymunedau drwy helpu ac annog plant ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol. Mae Campau’r Ddraig nid yn unig yn cynnig hamdden i blant ond mae hefyd yn ffordd wych o ddangos ei bod yn bosibl cadw’n heini a mwynhau eich hun gyda ffrindiau.
















