© Dragon Sport 2009
design by limegreentangerine

Welcome to Dragon Sport

Volunteer Heroes

Enw: Mike Armiger
Chwaraeon: Gwirfoddolwr

Mae Mike Armiger yn fyfyriwr sydd wedi bod yn ymwneud â Champau'r Ddraig ers mis Tachwedd 2003. Cyflwynwyd Mike i Gampau'r Ddraig a'i gysyniad i ddechrau tra oedd ar brofiad gwaith gyda Thîm Datblygu Chwaraeon Cyngor Sir Fynwy. Ers hynny, mae wedi bod yn un o wirfoddolwyr mwyaf gwerthfawr Sir Fynwy.

Yn fuan wedi gorffen ei gyfnod byr gyda Sir Fynwy, mynychodd Mike weithdy Campau'r Ddraig a dysgodd y sgiliau roedd eu hangen i chwarae mwy o ran yn y cynllun. Ers hynny, dydi o heb edrych yn ôl.

Yn fuan iawn daeth Mike yn wirfoddolwr mewn dwy o'r ysgolion cynradd lleol yn ei dref enedigol, ac roedd hynny'n gyfle iddo allu gweld yn uniongyrchol sut roedd y cynllun o fudd i blant.

Ers hynny, mae Mike wedi datblygu i fod yn wirfoddolwr arbennig iawn a bellach mae nid yn unig yn gweithio mewn Ysgolion Cynradd yn Sir Fynwy ond mae hefyd wedi dod yn aelod o staff hyfforddi Clwb Rygbi Mini'r Fenni a Chlwb Tenis Campau'r Ddraig y Fenni. Mae hefyd yn gwirfoddoli yn ei Ysgol Uwchradd, lle mae'n hyfforddi'r timau rygbi dan 12, dan 13 a dan 14 oed. Mynychodd Mike y gweithgaredd Gemau'r Gymanwlad ar gyfer ysgolion cynradd yn Ne Cymru yn ddiweddar ac mae'n disgrifio'r achlysur hwn fel y digwyddiad mwyaf a'r gorau ar gyfer plant ysgol i mi ei weld erioed.