Enw: Elizabeth (Libby) Vernon
Chwaraeon: Gwirfoddolwr 26 oed

Beth ydych chi’n ei wneud?
Gwirfoddolwr Campau'r Ddraig.
Beth yw eich dyletswyddau a’ch cyfrifoldebau chi?
Fy rôl yw helpu aelodau Tîm Datblygu Chwaraeon Abertawe i gynllunio a chyflwyno sesiynau chwaraeon hwyliog i blant a phobl ieuainc yn y gymuned. Fel gwirfoddolwr, rwy’n credu mai fy nghyfrifoldeb i yw sicrhau bod sesiwn yn bleserus a diogel, bod y syniad o chwarae teg yn cael ei hybu ac, yn fwy na dim, fy mod yn gynorthwy-ydd hwyliog a chyfeillgar, yn annog eraill i gael hwyl hefyd. Rwy’n credu bod hynny’n rhan allweddol o wirfoddoli.
Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan?
Roeddwn wedi graddio o Brifysgol a doedd gen i ddim cynlluniau pendant ar gyfer gwaith felly rhoddais fy enw i fod yn Wirfoddolwr Campau’r Ddraig, gan fy mod wrth fy modd efo chwaraeon ac eisiau ymwneud â hyfforddi.
Ble rydych chi’n gwirfoddoli i Gampau’r Ddraig?
Mannau amrywiol – yn y gorffennol, rwyf wedi mynychu digwyddiadau mewn ysgolion cynradd, canolfannau hamdden neu barciau. Mae rhai wedi bod yn ystod y tymor, er enghraifft, clybiau ar ôl ysgol, a rhai yn ystod y gwyliau – fel rhan o raglen haf y timau Datblygu Chwaraeon.
Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am wirfoddoli gyda Champau’r Ddraig?
Rwyf wrth fy modd yn yr awyrgylch cymdeithasol sy’n cael ei greu gan Gampau’r Ddraig, a’r cyfle i gymryd rhan yn y chwaraeon niferus a gynigir.
Ym mha ffyrdd mae Campau’r Ddraig wedi eich helpu chi i ddatblygu?
Mae mynychu digwyddiadau Campau’r Ddraig wedi bod o gymorth yn sicr i mi fagu hyder ac wedi’m cyflwyno i bobl arbennig iawn. Rwyf wedi derbyn llawer iawn o gefnogaeth, cyfarwyddyd a hyfforddiant ac mae hynny wedi bod o gymorth i mi lansio gyrfa lwyddiannus gobeithio mewn Datblygiad Chwaraeon.
Beth yw eich dyheadau yn y dyfodol ar gyfer Campau’r Ddraig neu i wirfoddoli mewn chwaraeon?
Yn sicr byddaf yn dal ati gyda’m gwaith gwirfoddol gyda Champau’r Ddraig, oherwydd rwy’n credu ei fod yn rhan bwysig o ddarparu cyfleoedd a phrofiadau cyffrous i blant. Am yr un rhesymau, rwy’n gweithio tuag at weithio oddi mewn i’r sefydliad, fel fy mod yn gallu bod yn rhan o’r tîm datblygu a chynnig syniadau newydd ar gyfer Abertawe. Wedi dweud hynny, rwyf dal yn meddwl bod gwirfoddoli’n beth da er mwyn dal ati, felly os byddaf yn ddigon lwcus i gael swydd mewn Datblygu Chwaraeon, byddaf yn dal ati i gyflwyno sesiynau pêl droed gwirfoddol rywle yn Abertawe!
















