© Dragon Sport 2009
design by limegreentangerine

Welcome to Dragon Sport

Rugby Heroes

Enw: Gavin Henson
Chwaraeon: Rygbi

Yn chwarae rygbi dros y Gweilch a Cymru

Cyflawniadau chwaraeon:
1982: Ganed: 1 Chwefror, 1982
2001: Chwarae am y tro cyntaf dros Gymru yn erbyn Siapan
2001: Cael ei ddewis yn Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol
2004: Cicio record yng Nghymru o 14 allan o 14 trosgais dros Gymru mewn gêm yn erbyn Siapan
2005: Ennill Camp Lawn y Chwe Gwlad; Ebrill Cael ei ddewis ar gyfer sgwad taith Llewod Prydain, cipio teitl y Gynghrair Geltaidd gyda Gweilch Castell-nedd Abertawe

2008: Ennill Camp Lawn y Chwe Gwlad eto !


Sut ddaru chi ddechrau chwarae?

Dechreuais chwarae pan oeddwn yn bump oed. Arferai fy nhad fynd a mi i glwb rygbi Pencoed lle roeddwn yn chwarae i'r garfan mini a'r garfan dan 8 oed ac yna mynd ymlaen nes cyrraedd y garfan dan 16. Wedyn, dechreuais chwarae i'm hysgol ac rwyf wedi bod yn chwarae byth ers hynny.

Pa chwaraeon oeddech yn cymryd rhan ynddynt yn blentyn?

Rygbi fu fy hoff gamp erioed ond roeddwn yn ceisio cymryd rhan ym mhob camp yn yr ysgol, o griced, i bêl droed i athletau. Rwy'n credu ei bod yn bwysig manteisio ar bob cyfle a gewch yn yr ysgol i weld beth yw eich cryfderau ac i weld beth rydych yn ei fwynhau. Rygbi oeddwn i'n ei fwynhau fwyaf, wrth reswm!

Beth ydych yn ei fwynhau am chwaraeon?
Roeddwn i bob amser yn mwynhau'r agwedd gystadleuol ar chwaraeon. Rwyn cofio chwarae yn erbyn fy ffrindiau yn yr ysgol ac eisiau gwella fy sgiliau ac ennill bob tro! Mae cymryd rhan mewn chwaraeon yn gyfle i chi gymysgu gyda gwahanol bobl a gwneud ffrindiau newydd hefyd.

Sut ydych chi'n cadw'n heini ac yn iach?
Mae'n bwysig bwyta digon o ffrwythau a llysiau ac yfed digon o ddwr. Mae fy sesiynau ymarfer rheolaidd ar y cae, fy ngemau rygbi am sesiynau yn y gym yn helpu i'm cadw yn heini.

Pwy oedd y dylanwad mwyaf ar eich gyrfa chwaraeon?
Fy rhieni yn bendant. Roedd fy nhad yn gapten tîm rygbi Maesteg ac roedd yn arfer mynd a mi gydag o i'w sesiynau ymarfer ddwywaith yr wythnos pan oeddwn yn ifanc. Roeddwn yn arfer ymarfer fy nhechneg gicio gydag o ar chwaraewyr eraill ac rwyn credu bod y sylfaen honno wedi bod yn un dda iawn i adeiladu arni. Fy arwyr yw'r Cymro, Ieuan Evans, ar Awstraliad, David Campese. Roeddwn wrth fy modd yn gwylio'r asgellwyr yn chwarae oherwydd mae'n nhw mor gyflym, fel Shane Williams heddiw.

Pam mae'n bwysig i rieni gymryd rhan?
Fyddwn i ddim yn gwneud yr hyn rwy'n ei wneud heddiw oni bai am fy rhieni. Mae'n nhw wedi fy nghefnogi drwy gydol fy ngyrfa ac maent yn dal i wneud hynny heddiw. Gall rhieni helpu i annog eu plant i roi cynnig ar amrywiaeth o chwaraeon o oed cynnar a helpu i'w tynnu oddi wrth sgrîn y teledu a'r cyfrifiadur ac allan i'r awyr iach.

Pa mor bwysig yw Campau'r Ddraig a pha effaith fydd yn ei gael ar chwaraeon Cymru yn eich barn chi?
Mae'n hanfodol! Mae'n helpu i gyflwyno sgiliau sylfaenol cymaint o gampau i blant ac maent yn gallu adeiladu ar hynny pan maent yn hyn. Fe ddysgodd fy nhad i mi beth oedd technegau sylfaenol cicio pêl rygbi ac rwyf wedi perffeithio hynny drwy gydol fy ngyrfa. Fe allai'r plant sydd yma heddiw fod yn sêr y dyfodol ac fe all cynlluniau fel Campau'r Ddraig eu helpu i gyrraedd eu nod, fel rwyf i a gweddill tîm Cymru yn ei wneud heddiw.