© Dragon Sport 2009
design by limegreentangerine

Welcome to Dragon Sport

Rugby Heroes

Name: Nicky Robinson
Sport: Rygbi 

 

Chwarae rygbi i Gleision Caerdydd a Chymru

 

Llwyddiannau chwaraeon:

Dyddiad geni: 03/01/1982
Safle: Maswr
Gêm gyntaf: Tymor 2000/01
Enillydd o’r Chwe Gwlad dan 21 yn 2003 
Rhyngwladol Cymru, Cymru A a Cymru dan 21
Prif sgoriwr pwyntiau Gleision Caerdydd
Mwyaf gemau i Gleision Caerdydd
 

Nicky Robinson – C ac A Campau’r Ddraig    

               
1) Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon?
Dechreuais ddangos diddordeb mewn chwaraeon o oedran ifanc – roedd fy nau riant yn frwd iawn ynghylch chwaraeon ac wrth dyfu i fyny roedd pêl droed neu griced o gwmpas y ty drwy’r adeg. Dechreuais chwarae rygbi yn yr ysgol gynradd.  

                                                                                                                                                                                                               

2) Pa chwaraeon oeddech chi’n cymryd rhan ynddynt yn blentyn?
Roeddwn i’n mwynhau popeth! Rygbi a phêl droed oedd fy chwaraeon yn ystod y gaeaf ac roeddwn yn arfer efelychu fy nhad a chwarae criced a golff yn yr haf.       

                                                                                        

3) Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am chwaraeon?
Mae ysbryd tîm da mewn chwaraeon fel rygbi bob amser – wrth chwarae’n broffesiynol rydych yn cael gweithio gan chwarae’r gêm rydych yn ei charu gyda 30 neu fwy o’ch ffrindiau ar yr un pryd.  Rwyf hefyd yn berson cystadleuol iawn ac yn ffynnu ar yr adrenalin rwy’n ei deimlo wrth chwarae gêm.        

                                 

4) Sut ydych chi’n cadw’n heini ac yn iach?
Rwy’n gwneud rhyw fath o ymarfer bob dydd, boed yn y gym, hyfforddiant rygbi neu ymarfer cicio; dydw i ddim yn gallu bod yn llonydd! Mae dwysedd ein sesiynau ymarfer yn amrywio, ar ddechrau’r wythnos rydym yn gwneud llawer ac yna mae’n lleihau wrth nesáu at y gêm. Mae’n hanfodol cefnogi llawer o ymarfer gyda deiet iach a chytbwys a llawer iawn o ddwr.       

                                                                                           

5) Pwy oedd y dylanwad mwyaf ar eich gyrfa chwaraeon?
Fy rhieni yn bendant.  Maent bob amser wedi fy annog i a’m brawd, a’n cefnogi, er pan ydym yn blant bach.  Roedd fy nhad yn chwarae llawer iawn o griced pan oeddwn i’n tyfu i fyny ac felly rwyf bob amser wedi edmygu Ian Botham. Roedd gen i fideo wnes i ei gwylio tua 300 o weithiau rwy’n siwr!  

             

6) Pam mae’n bwysig i rieni gymryd rhan?                
’Fyddai llawer iawn o ddynion a merched y byd chwaraeon ddim wedi cyrraedd ble maen nhw heddiw heb eu rhieni – ’fyddwn i ddim yn sicr.  Mae mor bwysig i blant gael cefnogaeth, hyd yn oed os mai dim ond drwy eu cludo i ymarferion a gemau mae rhywun yn gwneud hynny.  Mae pawb angen ychydig o anogaeth weithiau a rhieni yw’r bobl orau i wneud hynny!  

                                                

7) Pa mor bwysig yw Campau’r Ddraig a pha effaith fydd y cynllun yn ei gael ar chwaraeon Cymru yn eich tyb chi?    
Mae’r rhaglen yn gyfle i blant gymryd rhan mewn chwaraeon cystadleuol mewn amgylchedd hwyliog gyda phobl sy’n gwybod beth maen nhw’n ei wneud.  Mae hwn yn gyfle na fyddent yn ei gael fel arall.  Po fwyaf o blant fydd yn cymryd rhan o oed ifanc, po ehangaf fydd y sylfaen a bydd gennym safon uwch o ddynion a merched yn y byd chwaraeon yn y dyfodol.