© Dragon Sport 2009
design by limegreentangerine

Welcome to Dragon Sport

Football Heroes

Enw: Owain Tudur Jones
Chwaraeon: Pêl Droed

Chwaraewr canol cae Cymru a Dinas Norwich, cyn chwaraewr Dinas Abertawe.

Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon?
O oed cynnar iawn yn yr ysgol gynradd ac roeddwn yn arfer mynd i wylio nhad yn chwarae bob dydd Sadwrn. Mae'n bur debyg bod hynny wedi ennyn fy niddordeb mewn pêl droed. Roedd yn fy annog i chwarae mor aml ag y gallwn gyda'm ffrindiau.

Pa chwaraeon oeddech yn cymryd rhan ynddynt yn blentyn?
Pêl droed yn bennaf, ond yn yr ysgol roeddwn i'n mwynhau rygbi, tennis a golff, ac rwy'n dal i chwaraer rhain. Ond Pêl droed oeddwn i'n ei chwarae fwyaf.

Beth ydych yn ei fwynhau am chwaraeon?
Popeth! Mae'n fy nghadw yn heini ac iach ond, yn fwy na dim, mae'n gymaint o hwyl. Mae rhoi cynnig ar wahanol chwaraeon gyda'ch ffrindiau o gymorth i chi wella eich sgiliau personol eich hun a hefyd rydych yn cael cwrdd chymaint o wahanol bobl wrth gymryd rhan mewn chwaraeon.

Sut ydych chi'n cadw'n heini ac yn iach?
Ymarfer bob dydd, naill ai ar y cae pêl droed, yn y gampfa neu yn y pwll nofio. Mae'n fy helpu i gryfhau. Ond mae deiet yr un mor bwysig hefyd. Digon o ffrwythau a llysiau a digon o ddwr hefyd wrth gwrs.

Pwy oedd y dylanwad mwyaf ar eich gyrfa chwaraeon?
Fy nheulu, fy nau daid yn arbennig. Roeddent yn fy annog i chwarae pêl droed bob amser ac yn mwynhau cicio pêl efo fi. Roedd fy rhieni'n cymryd rhan mewn chwaraeon hefyd, fy nhad yn chwarae pêl droed a mam yn chwarae hoci. Felly, mae'n bur debyg bod chwaraeon yn y gwaed!

Pa mor bwysig yw Campau'r Ddraig yn eich tyb chi? Pa effaith fydd yn ei gael ar chwaraeon Cymru?
Mae'n bwysig iawn, mae'n gwella sgiliau plant mewn chwaraeon amrywiol. Mae o gymorth iddynt baratoi ar gyfer bod yn hyn - pan fyddant yn sêr mawr Cymru gobeithio! Rwy'n credu y bydd yn cael effaith aruthrol, bydd Campau'r Ddraig o gymorth i ni fel gwlad gael hyd i'r genhedlaeth nesaf o arwyr y byd chwaraeon a'u hyfforddi'n drwyadl.