Croeso i Gampau'r Ddraig

Meddwl am Hyfforddi

Os nad yw sefyll ar y lein yn ddigon i chi, yna efallai mai hyfforddi'r plant yw'r ateb delfrydol.

Mae'n rhoi boddhad mawr ac mae hefyd yn ffordd dda o ddysgu sgiliau newydd; yn dechnegol a chymdeithasol. Rydym yn cynnig rhai awgrymiadau ynghylch cymryd rhan i chi.

Gwneud i sesiwn redeg yn esmwyth

Nid yw trefnu grwp o blant sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon yn rhywbeth hawdd bob amser ond dylai'r awgrymiadau defnyddiol hyn wneud i bethau redeg mor esmwyth ag y bo modd i chi.

  • Peidiwch â stopio sesiwn fwy na sydd raid, a dim ond pan fyddwch mewn lleoliad da, lle mae pawb yn gallu eich gweld a'ch clywed, ddylid gwneud hynny.
  • Peidiwch â stopio gweithgareddau ffocws oni bai fod gennych rywbeth pwysig i'w gyfrannu. Bydd y plant yn teimlo'n rhwystredig iawn.
  • Os ydych yn siarad gyda'r grwp cyfan, iawn, ond ceisiwch roi sylw i unigolion heb ymyrryd gyda'r gêm neu'r ymarfer cyfan.
  • Byddwch yn eglur ond nid yn nawddoglyd. Mae sut rydych yn dweud pethau yr un mor bwysig â'r hyn sy'n cael ei ddweud.
  • Gwnewch yn siwr bod pawb yn gallu gweld a chlywed unrhyw arddangosfa rydych ar fin ei chyflwyno.
  • Unwaith rydych wedi hoelio sylw'r grwp, dylech egluro pethau mor eglur a chyflym ag y bo modd.
  • Eglurwch un neu ddau bwynt ar y tro a pheidiwch â defnyddio gormod o eiriau. Byddwch yn eglur a chryno.
  • Gall arddangosfa fod yn werth 1,000 o eiriau.
  • Rhowch arddangosfa syml - a'i hailadrodd. Gwnewch yn siwr bod pawb yn gwybod beth sydd angen ei gyflawni cyn rhoi cynnig arni.
  • Gofynnwch a oes gan unrhyw un gwestiwn am yr hyn maent ar fin ei wneud a gwnewch awgrymiadau defnyddiol.

Rheoli sesiwn hyfforddi

Y rheol aur i unrhyw sesiwn hyfforddi yw ei wneud yn hwyl i'r plant. Dylid defnyddio hyfforddiant sy'n canolbwyntio ar chwarae gemau - mae plant wrth eu bodd yn chwarae. Gallwch guddio'r dysgu gan ddefnyddio gemau, ond cofiwch mai nid y canlyniad yw'r ffocws.

Mae'n rhaid cynllunio'r sesiynau i gyd ymlaen llaw, felly meddyliwch am y canlynol:

  • Beth rydych am ei wneud?
  • Beth mae'r plant ei angen / eisiau?
  • Beth yw gallu'r plant rydych yn cynllunio ar eu cyfer?
  • Ydych chi wedi dewis gweithgareddau priodol?
  • Gwnewch yn siwr bod y safle chwarae yn ddiogel
  • Gosodwch yr offer allan ymlaen llaw
  • Dylech ddeall y sgiliau rydych ar fin eu dysgu i'r plant

Y sesiwn
Bydd y canlynol o gymorth i chi lunio cynllun sylfaenol ar gyfer sesiwn awr: 

  • Mae'n rhaid dechrau ar amser bob tro ac ennill momentwm yn fuan.
  • Gwnewch ymarferion cynhesu am 5-10 munud o leiaf.
  • Ewch dros sgil rydych wedi'i dysgu o'r blaen ar gyfer ei chadarnhau. Dylech ganmol ac annog y plant yn gyson.
  • Dangoswch sgiliau newydd - caniatewch 5-10 munud ar gyfer hyn. Gwnewch yn siwr bod pawb yn gallu gweld. Symudwch yn araf ac eglur i ddechrau.
  • Mae'n rhaid i'r plant ddeall sut mae pob sgil yn cydweithio â'i gilydd fel eu bod yn gallu eu defnyddio ar adegau priodol. Rhowch gyfle i bawb ymarfer cyfres newydd o sgiliau.
  • Gwyliwch beth sy'n digwydd. Os yn ymyrryd i gywiro, gwnewch hynny'n bositif. Os yw'r sgil braidd yn anodd i'r plant, dangoswch hi eto.
  • Gadewch ddigon o amser i chwarae gemau - rhyw chwarter awr, a sicrhau cyn lleied ag y bo modd o gyfarwyddiadau bryd hynny. Gwnewch yn siwr bod pawb yn cael cymryd rhan.
  • Dylech orffen gyda digon o amser ar gyfer sesiwn oeri o 5-10 munud gan gynnwys gemau hwyliog i gynnal sylw'r plant. Mwy am oeri.
  • Tra bo'r plant yn oeri, siaradwch gyda hwy. Holwch gwestiynau am y sgiliau maent wedi'u dysgu a rhowch adborth positif.

Wedi'r sesiwn

  • Cymerwch amser i werthuso beth ddigwyddodd. A gafodd pawb hwyl? Os na, pam?
  • A gafodd pawb gyfle ynteu a gafodd rai eu heithrio? Beth allech chi ei wneud i wella'r sesiwn nesaf?

Adnoddau a Deunyddiau


Llyfr Cofnodion Campau'r Ddraig
» download (.pdf)

 

Cysylltiadau


» Gwefan Newydd Hyfforddiant Cymru

 
Click here to play in the Dragon Arcade

Cael hyd i'ch cydlynydd lleol

Annog eich plant i gymryd rhan

Mae rhieni'n chwarae rôl allweddol yn agwedd eu plant tuag at chwaraeon.

» Fe allwch chi wneud gwahaniaeth!

Awgrymiadau Gwefan

Competition

Enillwch ddetholiad o wobrau ar gyfer eich hoff gamp o blith Campau’r Ddraig

» Cliciwch yma