© Dragon Sport 2009
design by limegreentangerine

Welcome to Dragon Sport

Gemau Cysylltu Geiriau

Odli

Gall plant mewn grwpiau bychain lunio eu penillion bychain eu hunain yn odli am chwaraeon a phobl y byd chwaraeon.

Cadw Curiad

Gall y plant wneud rapiau, caneuon neu ddawnsfeydd am chwaraeon a defnyddio eu dwylo, eu traed ac unrhyw offer arall sydd ar gael i gadw'r curiad.

Y Wyddor Chwaraeon

Andy Cole, Bocsio, Canw o, David Beckam.

Rhifau Chwaraeon

e.e. Lluosrifau 3 - person chwaraeon enwog / camp. Lluosrifau 5 - person chwaraeon enwog / camp.

Amser Stori

Llunio eu stori eu hunain, eistedd mewn cylch a mynd o amgylch y grwp gyda phob plentyn yn cyfrannu llinell at y stori.

Fe es I I Wersyll Campau'r Ddraig / Bag Campau'r Ddraig A Chwarae / Dewis...

Sibrydion

Draig

Morthwyl y Ddraig, sy'n gm gyffrous a difyr!

 

Torrir'r Iâ

Gallwch ddefnyddio mainc neu linell ac mae'n rhaid i'r plant eu trefnu eu hunain, e.e. yn ôl oedran, taldra.

Cael Hyd I'r Gofod
Gosodwch gylch o gadeiriau yn agos at ei gilydd, digon ar gyfer un i bob plentyn. Mae un plentyn yn sefyll yng nghanol y cylch. Mae'n rhaid i'r plentyn hwnnw geisio eistedd ar y gadair sbâr tra bo pawb arall yn ceisio ei rwystro drwy symud y seddi naill ai i'r chwith neu i'r dde i lenwi'r bwlch. Daw'r gêm i ben pan fydd y plentyn yn y canol yn eistedd ar y sedd (ydi hynna'n gwneud synnwyr ?).

Mewn parau, meddyliwch am eich hoff ddigwyddiad gyda Champau'r Ddraig, eich hoff gamp a rhywbeth nad oes neb arall yn ei wybod amdanoch. Yna, mae'n rhaid i chi ddweud wrth weddill y grwp beth rydych wedi'i ddarganfod am eich partner.

Dewiswch ddarn o offer a dywedwch wrthym ar gyfer beth fyddech yn ei ddefnyddio pe baech wedi'ch gadael ar eich pen eich hun ar ynys bellenig.

 

Syniadau Ystafell Ddosbarth

Cerddi

Lliwio

Cwis

Collage

Dylunio
Jig-ss, gemau, posteri, digwyddiadau, etc..

Cardiau A Nodiadau Diolch

Jync-Fodelu
Ewch i'ch canolfan adnoddau leol a phrynu dipyn o jync. Estynnwch hwn allan ar gynfas blastig a rhowch dâp gludiog, llinyn etc. i'r plant a'u cael i ddylunio rhywbeth, e.e. stadiwm chwaraeon newydd, camp newydd.

Straeon

Cylchlythyr

Sedd Boeth

Gemau Cyfrifiadurol Campau'r Ddraig

Chwarae Teg
Fideo

Chwarae Rôl
Mae'r plant yn cael sefyllfa ac maent yn gorfod ei hactio. Maen rhaid i'r plant eraill yn y grwp adrodd yn ôl am ymddygiad da a gwael o'r olygfa.

Trafodaeth Peli Tenis Pob plentyn yn cael tair pêl denis yr un. Basged / bin ym mlaen y dosbarth. Dewiswch bwnc rydych am ei drafod ac yna gall y plant fynegi eu safbwyntiau drwy roi eu llaw i fyny ac yna taflu eu pêl denis i'r fasged / bin. Os yw'r plant yn defnyddio eu peli tenis i gyd, yna gall y plant eraill gynnig eu peli tenis hwy i'r plant yma. Nid oes raid i'r plant ddefnyddio eu peli tenis i gyd.

Llinell Gontiniwm
Ie, Na, yn y canol. Taflwch wahanol gwestiynau at y plant ac mae'n rhaid iddynt redeg/cerdded i'r fan ble maent yn teimlo mae'r ateb cywir ar y llinell. Gellid defnyddio'r gêm yma fel ymarfer ymgynghori drwy daflu cwestiwn neu ddau i mewn i ganfod unrhyw wybodaeth rydym ei hangen yn ogystal sicrhau bod y gêm yn un hwyliog i'r plant.

 

Gemau

Jig-ss (bach neu anferth)
Eu hamseru eu hunain ac yna ceisio gwneud yn well nau hamser yn y dyfodol.

Gm Bwrdd

Allweddi

Gemau Scipio

Cwrs Rhwystrau
Llinyn a gorchudd llygad dros gwrs rhwystrau.

Tynnwch lun rhywbeth perthnasol i chwaraeon ac yna ceisiwch gael eich partner i dynnur un llun drwy gyfathrebu ar lafar. Nid ydych yn cael dweud wrtho beth ydyw!

Mewn grwpiau o dri, mae un person yn gwneud sip gydai gorff, e.e. dal bat criced, ac un person yn ceisio rhoir person arall yn yr un ystum heb ei gyffwrdd na dweud wrtho beth maer llall yn ei wneud.

Symudiadaur Dosbarth

Clirio Eich Cornel
Estynnwch bedwar cn neu gylch mewn sgwr. Rhowch hyd at 5 bag ffa ym mhob cornel. Y plant i sefyll ym mhob cornel (1 3 o blant ym mhob un). Pan fydd EWCH yn cael ei alw, un plentyn o bob cornel i godi un ou bagiau ffa hwy eu hunain a mynd ag ef i gornel arall. Pob plentyn yn dychwelyd iw gornel ei hun a naill ain dal ati i glirio mwy o fagiau ffa (os yw ar ei ben ei hun) neun tipior chwaraewr nesaf, syn gwneud yr un peth. Yr enillydd ywr chwaraewr / tm cyntaf i glirio ei gornel.

Syniad Susie
Os oes gennych neuadd, chwaraewch gemau gan ddefnyddio parau o blant, e.e. ar gyfer hoci, rhowch y plant mewn parau a rhoi pob pr wrth gn wedii osod o amgylch y grid. Pan maent yn dechrau, bydd y person cyntaf ym mhob pr yn driblo drwy git ac ynan l at ei bartner. Bydd ef wedyn yn mynd ac yn driblo drwy git etc. Mae hyn yn golygu mai dim ond hanner y plant syn rhedeg ar hyd y grid ar yr un pryd ond mae pawb yn cymryd rhan ac maer gm yn fwy diogel mewn mannau llai.

 

Gemau Parasiwt

Dal Pêl
Hanner y grwp yn dal y parasiwt ar hanner arall yn sefyll mewn cylch o'i amgylch. Mae pêl ar y parasiwt a'r nod yw taflu'r bêl gan ddefnyddio dim ond y parasiwt at y plant y tu allan fel eu bod yn gallu ei dal. Os ydynt yn dal y bêl, gallant gydio yn y parasiwt wedyn. Pa mor gyflym allwch chi gael pawb yn cydio yn y parasiwt?

Cath A Llygoden

Mae gennych un plentyn dan y parasiwt (y llygoden) ac mae'r plant eraill i gyd yn eistedd ar y llawr yn cydio yn ymyl y parasiwt. Yna rydych yn dewis plentyn (y gath) i fynd ar ben y parasiwt ac mae'n rhaid iddo geisio dal y llygoden. Mae'n rhaid i'r plant sy'n cydio yn ymyl y parasiwt geisio helpu'r lygoden drwy ysgwyd y parasiwt i guddio ble mae'r lygoden. Mae'n rhaid i'r plant dynnu eu hesgidiau i chwarae'r gêm yma!

Siarcod
Mae pawb yn cydio yn ymyl y parasiwt ac yn eistedd gyda'u coesau oddi tano. Dewiswch un plentyn (y Siarc) i fynd dan y parasiwt. Yna rydych yn dechrau dweud stori wrthynt am y môr, am gychod, am y tywydd etc. ac mae'r plant yn symud y parasiwt fel sy'n briodol i'r stori. Yna bydd y siarc yn symud o amgylch dan y parasiwt ac yn tynnu plant ato dan y parasiwt yn ddi-rybudd a byddant hwythau wedyn yn troi'n siarcod.

Pan Chwytha'r Gwynt
Mae pawb yn cydio yn y parasiwt ac yn sefyll ar eu traed. Yna rydych yn holi cwestiwn ac yn codi'r parasiwt mor uchel ag y gallwch ac mae'n rhaid i unrhyw un y mae'r cwestiwn yn berthnasol iddo fynd dan y parasiwt a newid lle gyda rhywun arall, e.e. unrhyw un a chwaraeodd bêl droed neithiwr, unrhyw un a gafodd dôst i frecwast.

Amser Stori
Mae pawb yn eistedd dan y parasiwt i wneud cuddfan a gallwch adrodd neu greu straeon.

Ewch am dro i www.funandgames.org/parachute_games.html

 
Click here to play in the Dragon Arcade

Cael hyd i'ch cydlynydd lleol

Annog eich plant i gymryd rhan

Mae rhieni'n chwarae rôl allweddol yn agwedd eu plant tuag at chwaraeon.

» Fe allwch chi wneud gwahaniaeth!

Competition

Enillwch ddetholiad o wobrau ar gyfer eich hoff gamp o blith Campau’r Ddraig

» Cliciwch yma