© Dragon Sport 2009
design by limegreentangerine

Welcome to Dragon Sport

Ymuno â Champau'r Ddraig

Ar gyfer pwy mae Campau’r Ddraig?

Mae Campau’r Ddraig yn gynllun sydd wedi’i greu’n arbennig ar gyfer ei ddefnyddio gyda phlant 7-11 oed. Fel arfer, fe’i trefnir mewn partneriaeth ag ysgolion cynradd, fel rhaglen weithgarwch y tu allan i oriau ysgol, ond mae hefyd yn cael ei gynnal mewn clybiau chwaraeon, clybiau cymunedol, canolfannau hamdden, neuaddau pentref, grwpiau ieuenctid a sefydliadau gwirfoddol.

Yr athroniaeth sy’n sail i Gampau’r Ddraig yw y dylai POB plentyn gyflawni a llwyddo mewn chwaraeon, waeth beth yw ei allu. Dangosir yr athroniaeth hon ar waith yn y dull integredig o gynnwys pobl ieuainc anabl yng ngweithgarwch Campau’r Ddraig. Mae’r offer, y cardiau adnoddau a’r hyfforddiant yn darparu cyngor cam wrth gam hawdd i’w ddilyn fel bod trefnyddion Campau’r Ddraig yn gallu sicrhau bod pob plentyn mewn grwp yn cael ei herio i gyrraedd ei botensial llawn, waeth beth yw’r potensial hwnnw.

Ceir rhaglen ychwanegol, Abl-Chwaraeon y Ddraig, sy’n arbennig ar gyfer pobl ieuainc gydag anghenion arbennig iawn ac i’w defnyddio mewn ysgolion arbennig.

Elfennau sylfaenol Campau’r Ddraig

  • Bag o offer - ar gyfer pob un o’r campau, a bag aml-chwaraeon yn cynnwys offer addas ar gyfer gemau ymosod
  • Cyfres o gardiau gweithgarwch a gemau ar gyfer pob camp
  • Hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer trefnyddion a chynorthwywyr Campau’r Ddraig, gyda hyfforddiant penodol i drefnyddion Abl-Chwaraeon y Ddraig

Mae offer Campau’r Ddraig yn hwyl i’w ddefnyddio. Mae’n llachar, yn lliwgar, o faint plant ac yn gallu gwrthsefyll gwaith caled!

Mae Llawlyfr Safle Campau’r Ddraig yn ceisio darparu man cyfeirio i ysgolion a chlybiau gan gynnig gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer cynnal gweithgareddau Campau’r Ddraig. Mae’n cynnwys gwybodaeth gyffredinol am Gampau’r Ddraig, cyfleoedd datblygu proffesiynol, cysylltiadau defnyddiol, polis_au, gweithdrefnau a ffurflenni.

Pa gampau yw Campau’r Ddraig?



 

Cardiau Campau’r Ddraig

Mae cardiau Campau’r Ddraig yn hawdd i’w defnyddio ac yn darparu gwybodaeth a syniadau i helpu trefnyddion i sefydlu a datblygu gemau a gweithgareddau addas ar gyfer pob gallu. Maent wedi’u dylunio ar y cyd â’r cyrff rheoli chwaraeon a chyda help gan yr Ymddiriedolaeth Chwaraeon ar gyfer Ieuenctid. Mae’r cerdyn cyntaf ym mhob cyfres yn rhestru’r gemau a gynhwysir yn y gyfres a’r offer a gewch ym mag offer Campau’r Ddraig ar gyfer y gamp honno. Mae cefn y cerdyn yn darparu gwybodaeth am y corff rheoli a sut mae Campau’r Ddraig yn cysylltu â datblygiad y gamp.

Mae’r cardiau’n darparu:

  • Gweithgareddau a gemau cysylltiol, datblygiadol, o weithgareddau syml yn arwain drwodd i gemau mini’r corff rheoli
  • Gwybodaeth am ddiogelwch
  • Syniadau hyfforddi syml
  • Syniadau i wneud y gemau’n haws neu’n anos

» Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru (FfChAC)
» Chwaraeon Anabledd Cymru

CLICIWCH YMA os hoffech i’ch clwb neu eich ysgol chi fod yn rhan o Gampau’r Ddraig neu os hoffech ddatblygu’r chwaraeon sydd gennych eisoes, cysylltwch â chydlynydd lleol Campau’r Ddraig.

 
Cystadlu

Cystadleuaeth Cwpan y Byd

» Cliciwch yma

Annog eich plant i gymryd rhan

Mae rhieni'n chwarae rôl allweddol yn agwedd eu plant tuag at chwaraeon.

» Fe allwch chi wneud gwahaniaeth!

Click here to play in the Dragon Arcade

Cael hyd i'ch cydlynydd lleol

Awgrymiadau Gwefan