Glynu Wrth Ein Gilydd
GÊM: Glynu Wrth Ein Gilydd
Chwarae'r GÊM:
Y plant yn symud yn rhydd o amgylch y safle. Mae'n rhaid ir arweinydd alw enw rhan or corff ac mae'n rhaid i'r plant gael hyd i bartner a glynu wrth ei gilydd gan ddefnyddio'r aelod hwnnw or corff, heb ysgwyd.
Gwahanol rannau'r corff:
Dwylo
Blaenau'r Bysedd
Troed
Pen-glin
Penelinoedd
Cluniau
Ysgwydd
Annog y chwaraewyr i gael hyd i bartner gwahanol bob tro















