Meddwl am Hyfforddi
Os nad yw sefyll ar y lein yn ddigon i chi, yna efallai mai hyfforddi'r plant yw'r ateb delfrydol.
Mae'n rhoi boddhad mawr ac mae hefyd yn ffordd dda o ddysgu sgiliau newydd; yn dechnegol a chymdeithasol. Rydym yn cynnig rhai awgrymiadau ynghylch cymryd rhan i chi.

Gwneud i sesiwn redeg yn esmwyth
Nid yw trefnu grwp o blant sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon yn rhywbeth hawdd bob amser ond dylai'r awgrymiadau defnyddiol hyn wneud i bethau redeg mor esmwyth ag y bo modd i chi.
- Peidiwch â stopio sesiwn fwy na sydd raid, a dim ond pan fyddwch mewn lleoliad da, lle mae pawb yn gallu eich gweld a'ch clywed, ddylid gwneud hynny.
- Peidiwch â stopio gweithgareddau ffocws oni bai fod gennych rywbeth pwysig i'w gyfrannu. Bydd y plant yn teimlo'n rhwystredig iawn.
- Os ydych yn siarad gyda'r grwp cyfan, iawn, ond ceisiwch roi sylw i unigolion heb ymyrryd gyda'r gêm neu'r ymarfer cyfan.
- Byddwch yn eglur ond nid yn nawddoglyd. Mae sut rydych yn dweud pethau yr un mor bwysig â'r hyn sy'n cael ei ddweud.
- Gwnewch yn siwr bod pawb yn gallu gweld a chlywed unrhyw arddangosfa rydych ar fin ei chyflwyno.
- Unwaith rydych wedi hoelio sylw'r grwp, dylech egluro pethau mor eglur a chyflym ag y bo modd.
- Eglurwch un neu ddau bwynt ar y tro a pheidiwch â defnyddio gormod o eiriau. Byddwch yn eglur a chryno.
- Gall arddangosfa fod yn werth 1,000 o eiriau.
- Rhowch arddangosfa syml - a'i hailadrodd. Gwnewch yn siwr bod pawb yn gwybod beth sydd angen ei gyflawni cyn rhoi cynnig arni.
- Gofynnwch a oes gan unrhyw un gwestiwn am yr hyn maent ar fin ei wneud a gwnewch awgrymiadau defnyddiol.
Rheoli sesiwn hyfforddi
Y rheol aur i unrhyw sesiwn hyfforddi yw ei wneud yn hwyl i'r plant. Dylid defnyddio hyfforddiant sy'n canolbwyntio ar chwarae gemau - mae plant wrth eu bodd yn chwarae. Gallwch guddio'r dysgu gan ddefnyddio gemau, ond cofiwch mai nid y canlyniad yw'r ffocws.
Mae'n rhaid cynllunio'r sesiynau i gyd ymlaen llaw, felly meddyliwch am y canlynol:
- Beth rydych am ei wneud?
- Beth mae'r plant ei angen / eisiau?
- Beth yw gallu'r plant rydych yn cynllunio ar eu cyfer?
- Ydych chi wedi dewis gweithgareddau priodol?
- Gwnewch yn siwr bod y safle chwarae yn ddiogel
- Gosodwch yr offer allan ymlaen llaw
- Dylech ddeall y sgiliau rydych ar fin eu dysgu i'r plant
Y sesiwn
Bydd y canlynol o gymorth i chi lunio cynllun sylfaenol ar gyfer sesiwn awr:
- Mae'n rhaid dechrau ar amser bob tro ac ennill momentwm yn fuan.
- Gwnewch ymarferion cynhesu am 5-10 munud o leiaf.
- Ewch dros sgil rydych wedi'i dysgu o'r blaen ar gyfer ei chadarnhau. Dylech ganmol ac annog y plant yn gyson.
- Dangoswch sgiliau newydd - caniatewch 5-10 munud ar gyfer hyn. Gwnewch yn siwr bod pawb yn gallu gweld. Symudwch yn araf ac eglur i ddechrau.
- Mae'n rhaid i'r plant ddeall sut mae pob sgil yn cydweithio â'i gilydd fel eu bod yn gallu eu defnyddio ar adegau priodol. Rhowch gyfle i bawb ymarfer cyfres newydd o sgiliau.
- Gwyliwch beth sy'n digwydd. Os yn ymyrryd i gywiro, gwnewch hynny'n bositif. Os yw'r sgil braidd yn anodd i'r plant, dangoswch hi eto.
- Gadewch ddigon o amser i chwarae gemau - rhyw chwarter awr, a sicrhau cyn lleied ag y bo modd o gyfarwyddiadau bryd hynny. Gwnewch yn siwr bod pawb yn cael cymryd rhan.
- Dylech orffen gyda digon o amser ar gyfer sesiwn oeri o 5-10 munud gan gynnwys gemau hwyliog i gynnal sylw'r plant. Mwy am oeri.
- Tra bo'r plant yn oeri, siaradwch gyda hwy. Holwch gwestiynau am y sgiliau maent wedi'u dysgu a rhowch adborth positif.
Wedi'r sesiwn
- Cymerwch amser i werthuso beth ddigwyddodd. A gafodd pawb hwyl? Os na, pam?
- A gafodd pawb gyfle ynteu a gafodd rai eu heithrio? Beth allech chi ei wneud i wella'r sesiwn nesaf?
Adnoddau a Deunyddiau
![]() |
Llyfr Cofnodion Campau'r Ddraig » download (.pdf) |
Cysylltiadau
» Gwefan Newydd Hyfforddiant Cymru

























