Enw: Ryan Watkins
Camp: Criced

Chwaraeodd Ryan Watkins i garfan Cymru D12 a D13 a bu’n Gapten ar y carfannau D14 a D15. Mae wedi chwarae i Loegr D19 a thimau Siroedd Lleiaf Cymru. Chwaraeodd gyntaf i Forgannwg mewn Gêm Undydd fyw ar Deledu Sky. Yn 2005, ymddangosodd mewn 5 Pencampwriaeth Sirol i Forgannwg a sicrhaodd y sgôr uchaf o 41 o rediadau.
Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon?
Mynd i wylio ’nhad yn chwarae criced pan oeddwn yn iau ac fe ddechreuais gymryd diddordeb bryd hynny.
Pa chwaraeon oeddech chi’n cymryd rhan ynddynt yn blentyn?
Pêl droed, rygbi, criced, golff a beth bynnag arall oedd gen i amser iddo.
Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am chwaraeon?
Rwy’n mwynhau cymryd rhan mewn tîm, teithio o amgylch y wlad a dramor.
Sut ydych chi’n cadw’n heini ac yn iach?
Drwy gymryd rhan mewn chwaraeon a mynd i’r gym; bwyta’n iach!
Pwy oedd y dylanwad mwyaf ar eich gyrfa chwaraeon?
Fy rhieni, am fy nghefnogi i ym mhopeth roeddwn yn dewis ei wneud.
Pa mor bwysig yw Campau’r Ddraig yn eich barn chi?
Pwysig iawn i waith gyda phlant yn hybu chwaraeon drwy gyfrwng ieuenctid yng Nghymru.
Pa effaith fydd y cynllun yn ei gael ar chwaraeon Cymru yn eich tyb chi?
Gwella datblygiad chwaraeon ieuenctid.
















