© Dragon Sport 2009
design by limegreentangerine

Welcome to Dragon Sport

Golf Heroes

Enw:Becky Morgan
Chwaraeon : Golff

Golffwraig Rhif 1 Cymru

Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon?
Dechreuais chwarae pob camp yn yr ysgol gynradd. Nid oeddwn yn canolbwyntio ar golff nes mod in 12 oed pan gyflwynodd fy nhaid fy chwaer a minnau i'r gêm. Roeddwn yn mwynhau cymryd rhan mewn llawer o chwaraeon a bod yn heini, ond golff oedd fy ffefryn.

Pa chwaraeon oeddech chi'n cymryd rhan ynddynt yn blentyn?
Roeddwn yn cymryd rhan mewn llawer o chwaraeon yn blentyn, fel pêl droed, badminton, nofio, tennis, lacrós a golff. Mae cymaint o gyfleoedd i blant gymryd rhan mewn chwaraeon y dyddiau hyn - mewn ysgolion a chlybiau, ac yn enwedig drwy gyfrwng cynlluniau grêt fel Campaur Ddraig a Tri-Golff. Does dim rhaid i chi fod yn seren mewn chwaraeon i gymryd rhan chwaith, gan fod cynlluniau fel y rhain yn darparu ar gyfer pawb.

Beth ydych yn ei fwynhau am chwaraeon?
Rwyf wrth fy modd yn cwrdd â phobl a gwneud ffrindiau newydd, ond hefyd dysgu sgiliau newydd a chael hwyl. Does dim byd gwell na hynny. Does dim gwahaniaeth ar ba lefel ydych chi'n chwarae, mae'n gymaint o hwyl a pho fwyaf rydych yn chwarae, po fwyaf o hwyl a gewch chi.

Sut ydych yn cadw'n heini ac yn iach?
Rwyn gwneud fy hyfforddiant ffitrwydd i gyd yn ystod y gaeaf ac yn ceisio cynnal lefel fy ffitrwydd yn dda yn ystod y tymor. Mae gennym drelar ffitrwydd syn ein dilyn o gwmpas y lle ar sawl cwrs rydym yn ei chwarae ar daith America ac felly mae hynnyn help - rwyn gallu cadwn heini hyd yn oed pan nad wyf yn chwarae. Mae cadw'n heini, iach ac egnïol yn bwysig iawn, ar ffordd orau o wneud hynny yw cymryd rhan mewn llawer o chwaraeon a bwyta digon o ffrwythau ac yfed digonedd o ddwr!

Pwy oedd y dylanwad mwyaf ar eich gyrfa chwaraeon?
Fy nheulu, sydd wedi fy nghefnogi drwy'r amser, heb roi pwysau arnaf. Roeddent yn fy annog i chwarae cymaint ag y gallwn a chael hwyl. Roeddwn wrth fy modd yn gwylio Seve Ballesteros a Nick Faldo yn chwarae pan oeddwn yn tyfu i fyny hefyd.
Ond mae llawer o ferched da yn golffio ar hyn o bryd, fel Becky Brewerton o Gymru a chwaraewyr fel Annika Sorenstam a Michelle Wie wrth gwrs, sy'n grêt i'r gêm ac yn chwarae golff gwych.