© Dragon Sport 2009
design by limegreentangerine

Welcome to Dragon Sport

Netball Heroes

Enw: Nicola Szehofner
Camp: Pêl Rwyd

Cyflawniadau hyd yma: Cynrychioli Cymru yn y Sgwadiau D17, D19 a D21. Fi oedd yr ieuengaf i chwarae ir garfan D17, yn 14 oed. Wedi cynrychioli Cymrun ddiweddar ym Mhencampwriaethau Pl Rwyd Ieuenctid y Byd yn Fort Lauderdale, Florida.

Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan mewn chwaraeon?
Roedd fy mam a'm tad yn fy annog i gymryd rhan mewn cymaint o chwaraeon ag y gallwn pan oeddwn yn iau, ac mi wnes!!

Pa chwaraeon oeddech chi'n cymryd rhan ynddynt yn blentyn?
Dechreuais nofio pan oeddwn yn 3 oed ac yna cymerais ran mewn Jw Jitsw, athletau, pêl rwyd, pêl fasged, pêl droed Americanaidd a mwy. Roeddwn yn 7 oed pan ddechreuais chwarae pêl rwyd i glwb pêl rwyd Glannau Dyfrdwy.

Beth ydych chin ei fwynhau am chwaraeon?
Rwyf wrth fy modd gyda'r ffaith bod modd i chi gwrdd a llawer o ffrindiau drwy gyfrwng chwaraeon. Hefyd, mae chwaraeon yn eich cadw'n heini ac iach, syn beth da !

Sut ydych chi'n cadw'n heini ac iach?

Rwyn hoffi mynd i'r gampfa i ymarfer a hefyd yn mwynhau nofio. Ond yr hyn sy'n gweithio i mi yn fy nhrefn ymarfer yw'r gwaith cyflymder ac ystwythder. Mae'n fy helpu i fod yn gyflym ar gwrt pêl rwyd, fel bod modd i mi fod mor ffrwydrol ag y bo modd.

Pwy oedd y dylanwad mwyaf ar eich gyrfa chwaraeon?
Fy mam mae'n bur debyg! Roedd yn fy annog i gymryd rhan mewn chwaraeon o oed ifanc iawn ac mae wedi fy nghefnogi bob cam or ffordd ers hynny !


Pa mor bwysig yw Campau'r Ddraig yn eich barn chi? Pa effaith fydd y cynllun yn ei gael ar chwaraeon Cymru?

Mae Campau'r Ddraig yn gyfle gwych i blant roi cynnig ar amrywiaeth eang o chwaraeon. Po fwyaf o chwaraeon y byddwch yn rhoi cynnig arnynt, po fwyaf tebygol ydych chi o gael hyd i un sy'n rhoi boddhad mawr i chi. A phwy a wyr i ble fydd yn eich arwain - mae'r byd i gyd wrth eich traed!!