© Campau'r Ddraig 2009

Croeso i Gampau'r Ddraig

Cyflwyno'r Fenter

Hybir a chyflwynir Campau'r Ddraig drwy gyfrwng rhwydwaith o Gydlynwyr Campau'r Ddraig syn gweithio ym mhob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Fe'i cefnogir gan amrywiaeth cynhwysfawr o gardiau adnoddau ac offer i helpu gyda chyflwyno sesiynau Campau'r Ddraig, a cheir adnoddau pellach ar gyfer recriwtio a hyfforddi rhieni, athrawon a hyfforddwyr gwirfoddol. Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar ddefnyddio'r adnoddau hyn i ddatblygu cyfleoedd y tu allan i gwricwlwm yr ysgol ac yn y gymuned.

Mae'r adnoddau i gyd yn cyd-fynd a'r cwricwlwm, felly gall yr ysgolion ar athrawon ddewis eu defnyddio mewn gwersi AG. Mae Campau'r Ddraig yn creu cysylltiadau gyda chlybiau chwaraeon a gweithgareddau cymunedol eraill drwy gynnig cyfleoedd i blant a gwirfoddolwyr wneud cynnydd mewn amrywiaeth eang o chwaraeon.

Mae Cydlynwyr lleol Campau'r Ddraig yn rhoi cyngor cam-wrth-gam a hyfforddiant i helpu ysgolion, clybiau chwaraeon a gwirfoddolwyr i gyflwyno Campau'r Ddraig. Cynigir y cymorth hwn i ysgolion a chlybiau drwy gyfrwng rhaglen barhaus y cytunir arni mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, ymgynghorwyr AG, cyrff rheoli chwaraeon cenedlaethol, ysgolion a darparwyr chwaraeon lleol eraill. Gall canolfannau hamdden, grwpiau ieuenctid a sefydliadau gwirfoddol eraill gyflwyno Campau'r Ddraig hefyd.

Mae Campau'r Ddraig:

  • wedi'i addasu i oedran, maint, lefel gallu, sgiliau a phrofiad y plant sy'n cymryd rhan
  • yn defnyddio rheolau symlach, offer a mannau chwarae llai a hyfforddiant hwyliog
  • yn paratoi'r chwaraewyr ar gyfer gêm yr oedolion, yn debyg i'r campau maent yn seiliedig arnynt
  • yn ddiogel ond eto'n heriol.

CLICIWCH YMA i weld gwefan Cyngor Chwaraeon Cymru, sy'n cynnwys newyddion a datganiadau i'r wasg diweddaraf Campau'r Ddraig.

 

 

Cael hyd i'ch cydlynydd lleol

Annog eich plant i gymryd rhan

Mae rhieni'n chwarae rôl allweddol yn agwedd eu plant tuag at chwaraeon.

» Fe allwch chi wneud gwahaniaeth!

Competition

Enillwch ddetholiad o wobrau ar gyfer eich hoff gamp o blith Campau’r Ddraig

» Cliciwch yma