MWY NAG ERIOED O BLANT Y DE ORLLEWIN YN CYMRYD RHAN MEWN CHWARAEON
Mae mwy nag erioed o’r blaen o blant yn Ne Orllewin Cymru’n cymryd rhan mewn chwaraeon allgyrsiol, diolch i fentrau a reolir gan Gyngor Chwaraeon Cymru (CChC).
Nod rhaglen 5x60 Llywodraeth Cynulliad Cymru, a reolir gan CChC, yw cael disgyblion ysgolion uwchradd Cymru – yn enwedig y disgyblion nad ydynt yn cymryd rhan fel rheol – i fod yn fwy egnïol yn amlach. 
Mae 5x60 wedi profi’n eithriadol boblogaidd yn y De Orllewin gyda holl ysgolion uwchradd Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Ceredigion, Caerfyrddin a Sir Benfro’n rhan o’r cynllun ac yn cynnig 38 o wahanol weithgareddau, yn cynnwys dawns, pêl osgoi a chodi hwyl mewn gemau i fwy nag 20,000 o ieuenctid ar draws y rhanbarth.
Mae pêl droed, rygbi a dawns wedi profi i fod y tri ffefryn ymhlith y genethod tra bo pêl droed, pêl fasged a thenis bwrdd yn fwy poblogaidd ymhlith bechgyn yr ysgolion uwchradd yn y De Orllewin.
Mae cynllun Campau’r Ddraig a ariennir gan y loteri – ymgyrch fwyaf erioed Cymru i gael plant ysgolion cynradd i fwynhau chwaraeon y tu allan i oriau ysgol – hefyd yn helpu i ddenu mwy o blant at chwaraeon a chynyddu lefelau gweithgarwch.
Yn ei lansiad fis Hydref 2000, dywedwyd mai’r cynllun oedd yr ymgyrch recriwtio fwyaf erioed yn y byd chwaraeon yng Nghymru ac mae wedi rhagori ar yr holl ddisgwyliadau, gyda 97% o holl ysgolion y De Orllewin yn ymwneud â’r cynllun yn awr.
Mae rhaglen AG a Chwaraeon Ysgol (AGChY) Llywodraeth y Cynulliad yn gwella’r wgaith o gyflwyno addysg gorfforol y cwricwlwm drwy roi hwb i hyder y staff dysgu ac ehangu eu gwybodaeth am y pwnc. Mae hefyd wedi cyfrannu llawer at roi sylw i’r gwendidau a chodi safonau wrth gyflwyno gwersi addysg gorfforol yn ysgolion Cymru.
Mae’r rhaglen yn chwarae rhan allweddol mewn sicrhau bod pob person ifanc yn cael cyfle i wella eu sgiliau corfforol a bywyd a datblygu dull positif o weithredu mewn perthynas ag iechyd a ffitrwydd.
Mae gwaith ymchwil wedi parhau i ddangos bod y cynllun yn cael effaith sylweddol ers ei lansiad yn 2002 – nid yn unig ar safonau addysgu a pherfformio – ond hefyd ar ymddygiad disgyblion, sgiliau dysgu ac agweddau.
Mae Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling, yn edrych ymlaen at welliannau pellach mewn cyfraddau cymryd rhan yn ystod y blynyddoedd nesaf:
"Mae cynnydd mewn lefelau chwaraeon a gweithgarwch corfforol wedi’u cyflawni eisoes ond mae sawl her allweddol i’w hwynebu eto wrth i ni barhau i greu cenedl iachach, fwy egnïol. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod y gwaith da sydd wedi’i sefydlu eisoes yn parhau ymhell i’r dyfodol ac mae cefnogi plant a phobl ieuainc i fyw bywydau egnïol yn ffordd ragorol o ddatblygu oedolion egnïol ac iach.
30/03/2009























